28 Medi 2015
Annwyl Carl
Bil yr Amgylchedd (Cymru) – Rhagor o wybodaeth
Ar ôl ichi ddod i'n cyfarfod ar 16 Medi 2015, byddwn yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am sawl mater a godwyd.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu'r canlynol:
· Canran y tir yng Nghymru a fyddai'n cael ei effeithio o ganlyniad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwrthod rhoi caniatâd i ddeddfu Rhan 6 y Bil;
· Manylion am sut y mae'r cynlluniau peilot 'treialu ardal' (sy'n ymwneud â 'datganiadau ardal') wedi perfformio, unwaith y bydd y wybodaeth ar gael;
· Cadarnhad a wnaeth yr adroddiad a gynhaliwyd gan Eunomia (a ddefnyddiwyd i lywio asesiad o effaith reoleiddiol y Bil) edrych ar ddim ond y tanciau malu traddodiadol ac nid ar biodreulwyr ensymau a/neu systemau adfer dŵr bwyd; a
· Nodyn ar y trefniadau ar gyfer cadw incwm ffioedd o drwyddedu morol ar gyfer ailfuddsoddi yn y gwasanaeth hwnnw.
At hynny, gofynnaf am gopi o lythyr Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Brif Weinidog Cymru mewn perthynas â chaniatâd Gweinidog y Goron. Os nad yw ar gael yn y byrdymor, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau'r math o ganiatâd y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i roi a'r math o ganiatâd y mae wedi'i wrthod.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd